Rhuo ei distawrwydd hi - Meleri Davies

£8.00

Tair cenhedlaeth o fenywod yr un teulu yw asgwrn cefn Rhuo ei distawrwydd hi, y gyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Meleri Davies, a gyhoeddir fis Tachwedd 2024. Mae galar a gorfoledd bod yn fenyw, yn ferch ac yn fam yn cordeddu drwy’r cerddi, sydd weithiau’n gynnil-ymatalgar a thro arall yn ffrwydrol.